Vera Brittain | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 29 Rhagfyr 1893 ![]() Newcastle-under-Lyme ![]() |
Bu farw | 29 Mawrth 1970 ![]() Wimbledon ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nyrs, ysgrifennwr, bardd, nofelydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, heddychwr, newyddiadurwr, ymgyrchydd heddwch, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched ![]() |
Adnabyddus am | Testament of Youth ![]() |
Priod | George Catlin ![]() |
Partner | Roland Leighton ![]() |
Plant | Shirley Williams, John Edward Jocelyn Brittain Catlin ![]() |
Awdures, ffeminist a nyrs Seisnig oedd Vera Mary Brittain (29 Rhagfyr 1893 – 29 Mawrth 1970). Mam y gwleidydd Shirley Williams oedd hi. Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei hunangofiant, Testament of Youth.
Cafodd ei geni yn Newcastle Under Lyme, yn ferch i Thomas Arthur Brittain (1864–1935) a'i wraig, Edith Bervon Brittain (1868–1948). Roedd ganddi un brawd, Edward. Cafodd ei magu ym Macclesfield a
Aeth i astudio Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, ond yna daeth yn nyrs wirfoddol (VAD) yn Llundain, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Aeth i Ffrainc a Malta i weithio fel nyrs. Lladdwyd ei brawd Edward a hefyd ei cariad, Roland Leighton, ar faes y gad. Ar ôl dychwelyd i Rydychen, cyfarfu â Winifred Holtby. Daeth y ddwy ohonyn nhw'n nofelwyr; bu farw Holtby ym 1935. Daeth Vera yn ymgyrchydd heddwch gweithredol.
Priododd George Catlin, wedyn Syr George, ym 1925.[1] Eu fab oedd yr arlunydd John Brittain-Catlin (1927–1987). Bu farw Vera Brittain yn Wimbledon yn 76 oed.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search